Clychau'n canu wrth lansio rhaglen
- Cyhoeddwyd

Bydd clochyddion Eglwys Gadeiriol Tyddewi'n dathlu lansio'r rhaglen
Wrth i glochyddion Eglwys Gadeiriol Tyddewi helpu lansio rhaglen Gŵyl Llundain 2012, rhan o'r Olympiad Diwylliannol, mae mwy o fanylion wedi eu cyhoeddi am brosiectau Cymru.
Fe fydd digwyddiadau celfyddydol drwy Gymru a Phrydain rhwng Mehefin 21 a Medi 9 y flwyddyn nesaf.
Ymhlith prosiectau Cymru mae cyfieithiad o ddrama Shakespeare ac awyren arbennig.
Bydd Y Storm yn cael ei pherfformio mewn cydweithrediad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llandŵ, Bro Morgannwg.
Y bardd, Gwyneth Lewis, sydd wedi cyfieithu'r gwaith.
Dywedodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: "Mae'r Gemau Olympaidd ond yn debygol o ddigwydd mor agos i ni unwaith mewn oes.
"Felly dwi'n falch iawn fod digwyddiad theatraidd yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y dathliadau pwysig."
Prosiect y bydd 65 o artistiaid a 2,000 o aelodau'r cyhoedd yn rhan ohono yw Adain Avion.
Hwb
Bydd awyren DC-9 yn teithio trwy Gymru, gan aros mewn pedwar safle er mwyn hybu digwyddiadau celfyddydol lleol.

Bydd yr awyren yn mynd i sawl safle, gan gynnwys yr Eisteddfod
Yn Abertawe bydd cyfle i flasu cynnyrch gardd lle oedd Cae'r Vetch ac yng Nglyn Ebwy bydd côr meibion lleol yn perfformio.
Yn Llandudno bydd 600 o blant ysgol yn gwylio Tîm Rygbi Gogledd Cymru yn hebrwng yr awyren i Venue Cymru cyn iddi fynd i safle'r Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'r Eisteddfod ar hen faes awyr, sy'n arbennig o addas," meddai'r artist Marc Rees sy'n cydlynu'r prosiect.
"Bydd yr awyren yn hwb i ddigwyddiadau cymunedol ac ar ddiwedd y gemau fe fyddwn yn mynd â hi i Sain Ffagan ac yn cyflwyno'r blwch du fel archif."
Hefyd fe fydd Mzanzi Cymru, cywaith plant y Cymoedd a De Affrica, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.