'Adolygiad annibynnol' o'r Eglwys
- Cyhoeddwyd

Mae'r Parch. Andrew John am i'r eglwysi a'r capeli gydweithio
Mae'n hen bryd i'r capeli a'r Eglwys yng Nghymru gydweithio'n agosach, yn ôl Esgob Bangor ar drothwy adolygiad i ddyfodol y sefydliad.
Gwahoddir plwyfolion i rannu eu syniadau am ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru am y ddau fis nesaf.
Bydd tîm o gynghorwyr yn cynnal adolygiad annibynnol cynhwysfawr o'r sefydliad wrth iddo nesáu at ei ganmlwyddiant yn 2020.
Wrth gynnal cyfarfodydd agored yn chwe Esgobaeth Cymru, gofynnir i blwyfolion pa agwedd o'u hesgobaeth y teimlant yn fwyaf cadarnhaol amdanynt a pha newidiadau yr hoffent eu gweld i wneud eu gweinidogaeth yn fwy effeithiol.
Gofynnir iddynt hefyd sut yr hoffent drin heriau megis y gostyngiad a ragwelir yn nifer clerigwyr ac adnoddau ariannol.
Mae'r Parchedig Andrew John, Esgob Bangor, yn cytuno bod angen meddwl am ddyfodol yr Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys cydweithio'n agosach gyda'r capeli - rhywbeth na fyddai wedi digwydd pan gafodd ei sefydlu bron i gan mlynedd yn ôl.
Cyd-addoli
"Rydym newydd gael sgwrs efo Cytûn am y dyfodol ar Ynys Môn," dywedodd yr esgob.
"Mae yna dros 100 o eglwysi a chapeli ar yr ynys, ac mae felly yn gyfle i ni, am y tro cyntaf, gydweithio.
"Os oes tri chapel ac un eglwys mewn pentref, a deg person ym mhob un, mae'n lot gwell dod yng nghyd ac efallai rhannu'r un adeilad i gychwyn, ac yn y dyfodol, yn fy marn i mae'n hen bryd i ni gychwyn cydaddoli a rhannu'r un weinidogaeth."
Gwelodd hefyd yr angen i gychwyn gofyn i bob plwyf gyfrannu mwy at gostau eu gweinidogaeth leol, gan godi'r gyfran maent yn casglu o 20% i 80%.
Mae Andy John hefyd am i bawb weithio i 'newid siâp eu gweinidogaeth'.
"Nid gweithio tua'r gynulleidfa ar y Sul yn unig, ond i fod yn rhan o'r gymuned; newid ein holl anerchiad," meddai.
"Mae'n well i weithio lle mae pobl yn byw, gyda gweithgareddau trwy'r wythnos.
"Mae lot o blwyfi wedi bod yn llwyddiannus wrth weithio yn y modd yma.
"Rhaid bod yn ddifrifol am yr her. Os nad ydym yn cael gafael ar y mater nawr, byddem yn colli'r cyfle."
Bydd esgobion a staff uwch yn cwrdd ar wahân i'r grŵp adolygu ac ni fyddant yn bresennol yn y cyfarfodydd agored.
Tri aelod y tîm adolygu yw'r Arglwydd Richard Harries, cyn Esgob Rhydychen, sy'n cadeirio'r grŵp; Yr Athro Charles Handy, cyn athro yn Ysgol Fusnes Llundain, a'r Athro Patricia Peattie, cyn Gadeirydd Pwyllgor Sefydlog Eglwys Esgobol yr Alban.
Anogodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, bobl i fynychu'r cyfarfodydd. Dywedodd, "Dyma'ch cyfle i helpu siapio Eglwys y dyfodol a sicrhau ei bod yn addas i'r diben ar gyfer cenedlaethau i ddod.
"Rydym eisiau i bawb gymryd rhan yn yr adolygiad yma a bydd yn rhaid i ni gyd fod yn barod i gymryd ei ganfyddiadau o ddifrif a bod yn agored i bosibilrwydd newid sylweddol yn ein strwythurau, y defnydd o adeiladau ac adnoddau eraill os ystyrir bod hynny er budd gorau'r eglwys a'i chenhadaeth i bobl a chymunedau Cymru."
Cynhelir y cyfarfodydd ar Dachwedd 8, Eglwys Sant Ioan Caerfyrddin, Tachwedd 9, Cadeirlan Aberhonddu, Tachwedd 28, Cadeirlan Llanelwy, Tachwedd 29, Cadeirlan Bangor, Ionawr 10, Llandaf ac Ionawr 11, Canolfan y Priordy, Y Fenni.