£360,000 i gylchgronau Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Derbyniwyd 20 o geisiadau i'w hystyried
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi grantiau blynyddol gwerth £360,000.
Fe fydd yr arian ar gael i helpu cyhoeddi 16 o gylchgronau Cymraeg yn ystod 2012-2015.
Derbyniwyd 20 o geisiadau i'w hystyried, sef ceisiadau ariannol gwerth £415,000.
Penderfynwyd atal y grant i'r cylchgrawn Tu Chwith.
'Gostyngiad sylweddol'
Dywedodd y Cyngor: "Er bod y cylchgrawn wedi gwneud gwaith pwysig yn meithrin ysgrifenwyr ifainc roedd y gostyngiad sylweddol yn y gwerthiant yn ystod y blynyddoedd diweddar yn arwydd clir nad oedd y cylchgrawn bellach yn bodloni'r gynulleidfa darged ac felly'n syrthio'n fyr o'i nod".
Yn sgil y penderfyniad i atal grant Tu Chwith, fe gytunwyd i sefydlu cronfa ddatblygu gyda'r pwyslais ar hybu gwaith awduron ifanc gan drafod gyda chylchgronau eraill sut orau i roi cyfleoedd cyhoeddi iddynt yn ogystal ag ymchwilio i ddulliau cyhoeddi aml-blatfform i gyrraedd to o ddarllenwyr newydd.
O'r ceisiadau newydd a dderbyniwyd eleni, dywedodd y cyngor bod aelodau'r Panel Grantiau yn "edmygu'r modd roedd cyhoeddwyr Y Glec a Wa-w! wedi llwyddo i gyhoeddi nifer o rifynnau heb nawdd, a hynny drwy ymroddiad y golygyddion.
"Yn anffodus, nid oedd modd cefnogi'r cylchgronau hyn heb beryglu dyfodol rhai o'r cyhoeddiadau eraill o fewn y gyllideb bresennol".
Dywedodd Richard Owen, Pennaeth Adran Grantiau Cyhoeddi'r Cyngor: "Mae'n hynod bwysig ein bod yn abl i gynnal yr ystod o gyhoeddiadau ar gyfer y darllenwyr,"
"Mae'n arwydd o apêl y deunydd fod y cylchgronau hyn yn cyrraedd cynifer o ddarllenwyr.
"Mae cyfanswm gwerthiant y cylchgronau a gefnogir yn agos at 32,000 a gellir amcanu bod nifer y darllenwyr o leiaf deirgwaith hynny."
Dyma'r cylchgronau fydd yn derbyn cefnogaeth am y cyfnod 2012-2015:
Rhifynnau mewn blwyddyn/ Grant Blynyddol
Newyddion/Materion Cyfoes
Y Cymro (52) £18,000
Barn (10) £80,000
Golwg (50) £73,000
Llenyddiaeth a Chrefydd
Barddas (4) £24,000
Cristion (6) £4,800
Gair y Dydd (4) £2,400
Taliesin (3) £28,500
Y Traethodydd (4) £8,000
Hamdden: Plant
Wcw (12) £36,000
Cip (10) £26,000
Hamdden: Oedolion
Y Casglwr (3) £1,500
Fferm a Thyddyn (2) £2,000
Lingo Newydd (6) £18,000
Llafar Gwlad (4) £7,000
Y Selar (4) £12,000
Y Wawr (4) £10,000