Mullany: Dim dedfryd tan 2012?
- Cyhoeddwyd

Roedd y cwpl newydd briodi ac ar eu mis mêl pan gawson nhw eu saethu
Mae'n bosib y bydd yn rhaid i deuluoedd Ben a Catherine Mullany aros tan y Flwyddyn Newydd er mwyn gwybod ffawd y ddau ddyn oedd yn euog o lofruddio'r par o Gwm Tawe.
Cafodd y ddau eu lladd ar ddiwrnod olaf eu mis mêl yn Antigua ar Orffennaf 27 2008.
Cafwyd Kaniel Martin, 23, a Avie Howell, 20, yn euog o lofruddio yng Ngorffennaf.
Roedd teuluoedd Mr a Mrs Mullany wedi gobeithio y byddai'r ddau yn cael eu dedfrydu heddiw, ar ôl i adroddiadau seiciatrig gael eu cyflwyno i Uchel Lys Antigua heddiw.
Yn wreiddiol roedd disgwyl i'r adroddiadau gael eu cyflwyno fis diwethaf, ond fe gafodd bar gyfreithiwr Martin ei daro'n sâl.
Ddydd Gwener clywodd y llys fod amddiffyniad Martin a Howell yn herio rhai o gasgliadau'r adroddiad.
Roeddynt am i'r llys glywed eu rhesymau'r wythnos nesa.
Dywedodd y barnwr Richard Floyd ei fod angen ystyried yr hol beth yn ddwys.
Awgrymodd ei bod yn bosib na fyddai'r dedfrydu yn digwydd cyn diwedd 2011.
Y gosb eithaf
Gall Martin wynebu'r gosb eithaf ond roedd Howell yn rhy ifanc pan gafodd Mr a Mrs Mullany eu lladd i wynebu'r gosb eithaf.
Adroddiadau seiciatryddol
Heddiw oedd y pumed tro iddyn nhw ymddangos yn y llys ers iddyn nhw eu cael yn euog.
Cafodd y dedfrydu ei ohirio ym mis Hydref tra bod adroddiadau seiciatryddol yn cael eu cwblhau.
Roedd Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed, yn dod o Bontardawe.
Cafodd Mr a Mrs Mullany eu saethu mewn bwthyn ar ynys Antigua bythefnos ar ôl iddyn nhw briodi.
Wythnosau yn unig ar ôl y briodas yn Eglwys Cilybebyll ger Pontardawe fe gafodd y ddau eu claddu ym mynwent yr eglwys.
Cafwyd Martin a Howell yn euog hefyd o lofruddio Woneta Anderson, siopwraig ar yr ynys, o dan amgylchiadau tebyg iawn.

Cafwyd Kaniel Martin ac Avie Howell, yn euog o lofruddio siopwraig lleol hefyd
Ar ddiwedd yr achos llys ym mis Gorffennaf dywedodd yr erlynyddion y byddan nhw'n "neilltuo dyfarniad" a fyddan nhw'n galw am y gosb eithaf.
Ond dydi'r gosb eithaf ddim wedi ei weithredu ar yr ynys ers y 1990au.
Wedi ymyrraeth gan y Cyfrin Gyngor yn Llundain yn 2000 mae'n rhaid i bob cosb eithaf yn Antigua gael eu gweithredu o fewn pum mlynedd o'r euogfarn.
Cwest
Ym mis Tachwedd clywodd cwest yn Abertawe fod Mr a Mrs Mullany wedi eu gorfodi i benlinio wrth ymyl eu gwely yng ngwesty Cocos cyn iddyn nhw gael eu saethu yn eu pennau.
Cofnododd y cwest reithfarn o ladd anghyfreithlon ar y ddau.
Clywodd y cwest for trigolion eraill y gwesty wedi clywed sgrechfeydd a sŵn saethu am 5am.
Galwyd yr heddlu, ac fe ddaethon nhw o hyd i Catherine Mullany yn farw, a'i gŵr Ben wedi ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd ei gludo adre' i Gymru ond bu farw yn fuan ar ôl cyrraedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011

- Cyhoeddwyd26 Medi 2011
