Un o gestyll Cymru ar y brig o ran atynfa i gerddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae'r castell a'r gerddi yn atyniad i filoedd bob blwyddyn
Un o atyniadau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru sydd wedi dod i'r brig fel yr atyniad gorau i fynd am dro.
Castell Powis ger Y Trallwng ddaeth i'r brig mewn arolwg ar wefan yr ymddiriedolaeth,
Gerddi'r castell oedd un o wyth atynfa ar draws y wlad a gafodd gefnogaeth gan enwogion o ran y llefydd gorau i fynd am dro.
Bu aelodau'r cyhoedd yn pleidlisio am eu hoff leoliad ar gyfer Gŵyl Gerdded gyntaf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Y gyflwynwraig tywydd Siân Lloyd oedd wedi dewis y daith gerdded o amgylch Castell Powis.
"Dwi'n hynod o falch bod y castell wedi dod i'r brig," meddai.
Balchder
"Dwi'n falch iawn eu bod wedi ennill, ac maen nhw'n haeddu ennill gan mai Castell Powis yw'r castell gorau yn y wlad."
Ychwanegodd Alison Dyer, rheolwr cynorthwyol gwasanaethau ymwelwyr eu bod yn falch o ennill y bleidlais.

Siân Lloyd wnaeth ddewis Castell Powis a'i gerddi
"Mae'n deyrnged gwych i harddwch y castell bod cymaint o bobl yn derbyn boddhad o ddod yma ac archwilio'n gerddi gwych yn ogystal a'r castell."
Derbyniodd y castell 40% o'r bleidlais gyda Parc Croome yn Sir Caerwrangon (oedd wedi ei ddewis gan y gantores Toyah Wilcox) yn ail.
Pwll Newton yn Sir Northumberland oedd yn drydydd, dewis yr awdures nofelau trosedd Val McDermid.
Atyniadau eraill oedd ar y rhestr oedd Ham House yn Richmond, dewis y comediwr Omid Djalili; Mount Stewart yng Ngogledd Iwerddon oedd dewis y gyflwynwraig Zoe Salmon); Wicken Fen yn Sir Caergrawnt oedd dewis yr archeolegwr Francis Pryor; Windermere yn Ardal y Llynnoedd, dewis yr anuriaethwr Paul Rose a The Warren yn Nyfnaint oedd dewis Adam Hart Davis.
Cafodd y bleidlais ei threfnu fel rhan o Ŵyl Gerdded yr ymddiriedolaeth a gafodd ei chynnal yn ystod gwyliau hanner tymor mis hydref.
Fe wnaeth dros 62,000 o bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau ar draws 376 o atyniadau'r ymddireidolaeth.
Mae disgwyl i'r ŵyl fod yn ddigwyddiad blynyddol.
Ar wefan yr ymddiriedolaeth mae 'na dros 700 deithiau cerdded posib.
Mae Castell Powis ar agor ar Nosŵyl Calan a Dydd Calan a bob dydd o Fawrth 1 ymlaen ond mae'radeiladu allannol a'r gerddi ar agor drwy'r flwyddyn.