Norofirws yn taro tri ysbyty yn Wrecsam a'r Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i ddwy ward yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, barhau ynghau i gleifion newydd oherwydd y firws tymhorol, norofirws.
Dywedodd swyddogion iechyd y gallai wardiau Cunliffe a Mason ailagor o fewn dyddiau wedi'r achosion gyhoeddwyd ddydd Llun a dydd Mawrth.
Cafodd un ward yn Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug ei chau'r wythnos ddiwetha'.
Mae'r salwch yn heintus iawn ac yn achosi chwydu a dolur rhydd.
Yn ôl Ymddiriedolwyr Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cafodd 13 o gleifion ac un aelod o staff eu taro'n wael yn Ysbyty Maelor.
Mae'r symptomau yn dechrau dangos rhwng 12 a 48 awr ar ôl heintiad ac yn para rhwng 12 a 60 awr.
Mae'r bwrdd iechyd yn annog unrhyw un â symptomau i gadw draw o ysbytai am o leia' 48 awr.
Caewyd Ward Clwyd yn Ysbyty'r Wyddgrug i gleifion newydd ar Ragfyr 29 wedi i Ward Delyn gael ei hailagor wedi achosion o'r firws cyn y Nadolig.