Plaid Cymru i gyhoeddi adolygiad
- Cyhoeddwyd

Y pedwar sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i frwydro am arweinyddiaeth Plaid Cymru yw Elin Jones, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Leanne Wood a Simon Thomas.
Bydd Plaid Cymru yn cyhoeddi adolygiad gafodd ei gynnal yn dilyn perfformiad gwael y blaid yn etholiad y Cynulliad y llynedd.
Bydd yn cynnwys argymhellion ynglŷn â dyfodol y blaid wedi iddi golli seddi ym Mae Caerdydd.
Cafodd yr adolygiad ei arwain gan ymgynghorydd polisi economaidd Plaid Cymru, Eurfyl ap Gwilym.
Bydd ef ac arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones, yn cyhoeddi canlyniadau'r adolygiad ym mhencadlys Plaid Cymru yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.
Ymddiswyddo
Penderfynwyd cynnal yr adolygiad wedi i'r blaid orffen yn y trydydd safle - y tu ôl i'r Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol.
Daw'r cyhoeddiad wrth i bedwar ymgeisydd frwydro i olynu Mr Jones am arweinyddiaeth y blaid wedi iddo benderfynu ymddiswyddo.
Y pedwar sydd wedi cyhoeddi eu bwriad i frwydro am yr arweinyddiaeth yw Elin Jones, yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Leanne Wood a Simon Thomas.
Bydd yr enwebiadau yn cau ar Ionawr 26.
Bydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau ar Fawrth 15 2012.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2011