Dau o bobl wedi marw wedi damwain awyren
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain yn ardal Y Trallwng
Mae dau wedi marw yn dilyn damwain awyren ysgafn ym Mhowys ddydd Mercher.
Un o'r ddau, yn ôl pobl leol, oedd Bob Jones, ffermwr ac un o sylfaenwyr Maes Awyr y Canolbarth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle yn Y Trallwng, Sir Drefaldwyn am 12.44pm.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod yr awyren wedi disgyn ger Tre'r Llai.
Mae dau griw o ddiffoddwyr o'r Trallwng ac un o Lanfair Caereinion wedi eu hanfon - a cherbyd pwmp Land Rover o Lanfyllin.
Fe gafodd Maes Awyr Tre'r Llai ei gau am y tro.
Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys fod dau o bobl wedi marw'n dilyn y digwyddiad.
"Rydym nawr yn ceisio cysylltu â'r perthnasau agosaf ac rydym wedi penodi swyddog cyswllt ar gyfer y teuluoedd," meddai'r Prif Arolygydd Martin Tavener.
Dywedodd llygad-dystion fod awyren saith sedd wedi disgyn ger Cefn Digoll, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Trasiedi
Yn ôl yr Aelod Seneddol lleol Glyn Davies, roedd y ddamwain yn drasiedi ofnadwy i'r ardal.
"Mae'r tywydd yn eithaf da, felly dwi ddim yn siŵr beth oedd achos y ddamwain.
"Dwi'n galw am ymchwiliad llawn, ond mae hynny ar gyfer diwrnod arall.
"Ar hyn o bryd mae fy meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai sydd wedi marw yn y ddamwain drasig."
Cadarnhaodd yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.