Wyddfa: Gwadu gyrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o fynd â cherbyd gyriant pedair olwyn ddwywaith i gopa'r Wyddfa wedi gwadu cyhuddiadau o yrru yn beryglus.
Cafodd Craig Williams, 39 oed o Cheltenham, ei ryddhau o'r ddalfa ar fechnïaeth amodol gan farnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.
Mae'r technegydd di-waith wedi ei gyhuddo o yrru cerbyd Vauxhall Frontera yn beryglus ar hyd llwybrau a rheilffordd y mynydd i'r copa, 3,560 troedfedd (1,085 metr), ddwywaith ym mis Medi 2011.
Mae disgwyl i'r achos llys gychwyn ym mis Ebrill.