Sunderland 2-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Stephane Sessegnon (chwith) sgoriodd yr un gynta
Sunderland 2-0 Abertawe
Gadawodd chwaraewyr Abertawe y cae'n benisel - er eu bod yn rheoli'r gêm am gyfnodau hir cafodd dwy gôl wych eu sgorio yn eu herbyn.
Stephane Sessegnon sgoriodd y gynta wedi 14 munud a chyrlio'r bêl i mewn i'r rhwyd.
Roedd Sebastian Larsson wedi taro'r postyn cyn i Scott Sinclair wastraffu cyfle i'r ymwelwyr a methu'r gôl o chwe llath.
Abertawe oedd yn pasio'n bert ond Craig Gardner seliodd y fuddugoliaeth wrth saethu o 20 llath.
Ar ddiwedd gêm gystadleuol Sunderland yn mynd â hi.