Darn bach o hanes Churchill mewn tŷ yn Aberafan
- Cyhoeddwyd

Fe lwyddodd Winston Churchill i gael swydd i John Williams yn y Weinyddiaeth Llafur
Bydd cyfeillgarwch annhebygol rhwng glöwr o dde Cymru ac un o wleidyddion mwyaf enwog yr 20fed Ganrif yn cael ei amlygu mewn rhaglen ddogfen.
Cyfarfu John Williams o Aberafan â Winston Churchill yn ystod gaeaf 1915-16 pan oedd y ddau'n swyddogion yn y fyddin yn Ffrainc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Churchill helpu'r Uwch-Gapten Williams i gael swydd pan oedd hi'n dynn arno yn ystod dirwasgiad y 1920au.
Bydd ŵyr Mr Williams yn adrodd yr hanes ar raglen fydd yn cael ei darlledu ar S4C ym mis Chwefror.
'Y Weinyddiaeth Amddiffyn'
Fe fydd y rhaglen yng nghyfred Darn Bach o Hanes yn cael cipolwg ar lythyr gwerthfawr gan Winston Churchill sydd yng ngofal teulu Mr Williams ers dros 70 mlynedd.
Yn y rhaglen a ddarlledir nos Lun, Chwefror 23, mae'r cyflwynydd Rhodri Llwyd Morgan yn cwrdd â Peter Williams sy'n egluro i'w dad-cu gadw mewn cysylltiad â Churchill wedi'r rhyfel.
"Ar ôl streic y glowyr a'r dirwasgiad economaidd, fe gollodd fy nhad-cu ei waith.
"Fe ysgrifennodd at Churchill i ofyn am waith yn y Weinyddiaeth Amddiffyn."

Anfonodd Churchill lythyr at Uwch-gapten Williams ym 1929
Yn ei lythyr dyddiedig 1929, a gafodd ei anfon o Santa Barbara, California, ysgrifennodd Churchill: "Rwy'n hapus dros ben eich bod wedi cael swydd gyda'r Llywodraeth yn dilyn fy ymyrraeth.
"Pan fyddaf yn dychwelyd i Loegr yng nghanol mis Tachwedd efallai y byddwch yn ysgrifennu unwaith eto gan adael i mi wybod sut y mae pethau.
"Yn naturiol byddwn i'n gwneud unrhyw beth y gallwn ond - wrth gwrs - does gen i ddim dylanwad gyda'r Llywodraeth bresennol."
Ond fel y datgela Peter Williams, roedd gan Churchill gryn ddylanwad o hyd er mai Llywodraeth Llafur Ramsay MacDonald oedd mewn grym ar y pryd.
Fe lwyddodd i gael swydd i John Williams yn y Weinyddiaeth Llafur.
Roedd e mor ddiolchgar i Churchill fel y gwnaeth enwi ei fab ei hun - tad Peter - yn 'Robert Winston Spencer Williams'.