Caerdydd yn dychwelyd i Wembley
- Cyhoeddwyd

Anthony Gardner rwydodd i'w gôl ei hun dros Gaerdydd
Fe fydd Caerdydd yn teithio i'r Wembley newydd am y pedwerydd tro mewn pum mlynedd wedi iddyn ennill yn rownd gynderfynol Cwpan Carling ar giciau o'r smotyn.
Roedd tîm y brifddinas un ar ei hôl hi wedi cymal cyntaf y rownd gynderfynol yn erbyn Crystal Palace cyn eu croesawu i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Anthony Gardner oedd wedi sgorio gôl Palace yn y cymal cyntaf, ond yntau hefyd rwydodd i'w gôl ei hun wedi llai na saith munud i unioni'r sgôr dros y ddau gymal.
Fe allai Caerdydd fod wedi bod ddwy neu dair ar y blaen cyn yr egwyl.
Daeth dau gyfle i'r prif sgoriwr Kenny Miller, ond dim llwyddiant er i un gynnig wedi 40 munud basio fodfeddi heibio'r postyn.
Cerdyn coch
Yn yr ail gyfnod roedd mwy o bwrpas i chwarae'r ymwelwyr, ond roedd hynny'n rhoi cyfleoedd i Gaerdydd wrthymosod, a bu ond y dim i Peter Whittingham sgorio gydag ergyd o 25 llath.

Roedd y nerfau'n dangos ar y fainc i'r ddau dîm
Roedd Palace yn cryfhau wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, ac fe ddaeth un cyfle da i Wilfrid Zaha, ond methodd y chwaraewr ifanc a manteisio.
Gyda llai na chwarter awr yn weddill o'r 90, fe welodd Benny McCarthy gerdyn coch i Palace, gan godi gobeithion Caerdydd.
Ond roedd angen gôl arall, ac er i Don Cowie fynd yn agos doedd dim yn tycio a bu'n rhaid chwarae hanner awr o amser ychwanegol.
Er fod Palace i lawr i ddeg dyn, dyw hynny ddim yn anfantais wrth fynd i giciau o'r smotyn, ac fe daflodd Malky Mackay Rudy Gestede ar y cae fel eilydd mewn ymdrech i osgoi'r artaith hwnnw.
Roedd Miller wedi taro'r postyn a Kiss wedi taro'r trawst cyn i Aron Gunarsson daro'r trawst eto ym munud ola'r chwarae ond doedd dim mwy o sgorio.
Drama greulon
Roedd Wrecsam wedi diodde' gyda chiciau o'r smotyn wythnos yn ôl, ac roedd ergyd debyg i Gaerdydd.
Kenny Miller - o bawb - fethodd y gic gyntaf o'r smotyn, ond methodd Palace eu cic gyntaf nhw wrth i Tom Heaton arbed cynnig Jermaine Easter, hogyn o Gaerdydd!
Roedd Heaton yn arwr eto wrth arbed ail gynnig yr ymwelwyr - Caerdydd ar y blaen.
Llwyddodd Conway, Whittingham a Gestede gyda'u cynigion nhw, a phan arbedodd Heaton drydydd cynnig gan Palace, roedd Caerdydd eisoes yn dathlu cyrraedd Wembley.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012

- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
