Teulu gwraig 67 oed yn dweud ei bod hi'n 'fam gariadus'
- Cyhoeddwyd

Roedd Irene Lawless yn byw ar ei phen ei hun yn Llanllwni
Wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i lofruddiaeth gwraig 67 oed yn Sir Gaerfyrddin, mae ei theulu wedi rhoi teyrnged iddi.
Mae ei marwolaeth wedi ysgwyd y gymuned glòs.
Daethpwyd o hyd i Irene Lawless yn farw yn ei chartref ar stad Bryndulais yn Llanllwni brynhawn Llun.
Mae tri o ddynion wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'i marwolaeth.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 26 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a'r ddau arall, un yn 20 a'r llall yn 30 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.
Mae pobl leol wedi dweud bod Ms Lawless yn "hoffus ac yn annibynnol".
'Mam gariadus'
Dywedodd ei theulu eu bod yn gofyn i bobl leol helpu'r heddlu.

Yr heddlu ar Stad Bryndulais yn Llanllwni wedi marwolaeth irene Lawless
Dywedodd ei mab Jason ei bod yn "fam a mam-gu gariadus" a'i bod hi'n "hoff o arddio, anifeiliaid a'i lluniau."
Ychwanegodd ei brawd hi, Phil, taw hi oedd "halen y ddaear a chwaer arbennig."
Dymunodd i'r teulu gael amser i alaru.
Roedd Ms Lawless wedi bod yn byw yno am tua 20 mlynedd.
Mae plismyn arbenigol wedi bod yn cysuro a chefnogi'r teulu ond does dim manylion eto sut na pham y cafodd Ms Lawless ei llofruddio.
Mae plismyn wedi bod yn holi o ddrws i ddrws.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu yn lleol ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2012

- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2012
