Damwain: Cyhoeddi enw dyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw wedi gwrthdrawiad rhwng lori sbwriel a char ger Heol Llundain, Doc Penfro, fore Mawrth.
Roedd Harold Glyn Rowlands, 82 oed, o ardal Cosheston, Sir Benfro.
Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.