Dyn 18 oed yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Yr heddlu ym Mhentyrch wedi tân mewn byngalo ddydd Gwener
Mae dyn 18 oed yn y ddalfa ar ôl bod yn Llys Ynadon Caerdydd ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafwyd hyd i gorff David Evans, 64 oed, ym Mhentyrch ger Caerdydd ychydig wedi 2:30am fore Gwener.
Roedd tân wedi bod yn ei gartref.
Bydd Bleddyn Rees King o ardal Abercynon yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol