Draenio llyn yn lladd pysgod ger Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Cafodd y pysgod eu darganfod mewn nant sy'n llifo i mewn i'r llyn ger Aberhonddu.
Bu farw dros 100 o bysgod mewn nant ger Afon Wysg ym Mhowys wedi i lyn pysgota preifat gael ei ddraenio, yn ôl Asiantaeth yr Amgylchedd.
Roedd y pysgod, draenogiaid a rhufellod, mewn nant sy'n llifo i mewn i'r llyn ger Aberhonddu.
Dywedodd yr asiantaeth fod y pysgod wedi nofio trwy rwyll oedd yn gorchuddio pibell wrth i'r llyn gael ei wagio cyn archwiliad diogelwch.
Nid oedd unrhyw dystiolaeth o ddifrod ecolegol nac amgylcheddol, meddai.
Pibell
Cafwyd hyd i'r pysgod mewn nant tua milltir o Aberhonddu am 1.30pm ddydd Gwener.
Dywedodd yr asiantaeth fod y perchnogion wedi symud y rhan fwyaf o'r pysgod o'r llyn cyn iddo gael ei ddraenio ar gyfer yr archwiliad.
Ond roedd y pysgod wedi nofio i'r bibell trwy'r rhwyll am eu bod mor fach.
Mae'r asiantaeth wedin dweud y bydd eu swyddogion yn cyfarfod â pherchnogion y llyn er mwyn sicrhau na fyddai achos tebyg eto.