Casnewydd 4-0 Carshalton
- Cyhoeddwyd

Casnewydd 4-0 Carshalton
Mae Casnewydd drwodd i'r wyth olaf yng nghystadleuaeth Tlws FA Lloegr ar ôl curo Carshalton ar Barc Spytty o 4-0.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl gôl cynnar gan Sam Foley, gyda Elliott Buchanan yn gwneud hi'n 2-0 ar ôl croesiad David Pipe.
Munud ar ôl yr egwyl roedd hi'n 3-0 diolch i ergyd isel Adam Chapman.
Romeone Rose, yn chwarae ei gêm gyntaf i Gasnewydd, sgoriodd yr olaf.
Yn wreiddiol roedd y gêm i gael ei chwarae ar Chwefror 3 ond bu'n rhaid ei gohirio oherwydd bod y cae wedi ei rewi.