Dyn wedi'i arestio wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth yn dilyn gwrthdrawiad achosodd farwolaeth beiciwr.
Cafodd Alan Mort, 63 oed o Fae Cinmel, Conwy, anafiadau difrifol i'w ben a bu farw yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad ar yr A458 ger Ystad Diwydiannol Manor, Fflint.
Fe ddigwyddodd tua 12:38pm ddydd Sul a chafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion, yn enwedig unrhyw un a welodd y beiciwr neu Range Rover arian yn y cyffiniau.
Yn ôl swyddogion, gyrrwr y cerbyd oedd y dyn a gafodd ei arestio.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol