Teyrnged i ddyn 'yn fawr ei barch'
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gynbarafeddyg fu farw wedi i gar daro ei feic.
Cafodd Alan Mort, 63 oed o Fae Cinmel, Sir Conwy, anafiadau i'w ben wedi'r ddamwain ddydd Sul am 12.38pm yn Y Fflint.
Bu farw yn yr ysbyty a chafodd dyn 44 oed ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Roedd Mr Mort yn arweinydd tîm clinigol yn Ymddiriedolaeth Ambiwlans Gogledd Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran yr ymddiriedolaeth: "Rydan ni wedi ein hysgwyd oherwydd marwolaeth drist Alan ac yn meddwl am ei deulu.
"Roedd llawer o barch iddo nid yn unig ymhlith cydweithwyr yn Sir y Fflint ond staff drwy'r gogledd.
"Ac roedd yn ddyn caredig ac addfwyn oedd yn gofalu'n fawr am gleifion tra oedd yn y gwasnaeth ambiwlans.
"Yn sicr, roedd yn aelod staff delfrydol a bydd colled fawr ar ei ôl."