Mwy o achosion o ddwyn olew
Mae'r achosion o ddwyn olew ar gyfer gwresogi wedi cynyddu 500% yn y pum mlynedd diwethaf yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.
Yn 2007, cafodd 68 achos eu cofnodi gan y pedwar llu heddlu ar draws Cymru.
Ond erbyn y llynedd, roedd wedi codi i 364.
Nia Thomas sy'n holi Peredur Hughes, Cadeirydd Bwrdd cwmni yswiriant NFU Mutual.