Scarlets yn colli yn Glasgow
- Cyhoeddwyd

Glasgow 19-9 Scarlets
Fe enillodd y Scarlets yn erbyn Glasgow ym Mharc y Scarlets ddechrau'r flwyddyn, ond fe gafodd yr Albanwyr gyfle i ddial yn Firhill nos Iau.
Daeth unig gais y gêm yn yr hanner cyntaf wrth i Jon Welsh groesi i'r tîm cartref.
Trosodd Ruaridh Jackson y cais ac ychwanegu cic gosb i ateb un gan Dan Newton i'r ymwelwyr i'w gwneud hi'n 10-3 ar yr egwyl.
Siomedig oedd yr ail hanner i'r cefnogwyr yn oerni Glasgow, gyda Newton a Jackson yn cyfnewid ciciau cosb - dau yr un - cyn i Glasgow roi halen ar y briw.
Daeth gôl adlam hwyr gan Jackson â tri phwynt arall i'r tîm cartref, a gyda hynny doedd dim pwynt bonws i'r Scarlets wrth golli chwaith.
Bydd gweddill rhanbarthau Cymru yn chwarae nos Wener, ond fe gafodd Leinster fuddugoliaeth ysgubol nos Iau yn erbyn Treviso i agor bwlch anferth ar frig y tabl.
Mae buddugoliaeth Glasgow yn dod â nhw'n gyfartal ar bwyntiau gyda'r Gweilch.
Canlyniadau:-
Nos Iau:
Glasgow 19-9 Scarlets
Leinster 42-8 Treviso
Nos Wener:
Ulster v Dreigiau;
Gleision v Connacht;
Caeredin v Gweilch
TABL RABODIRECT PRO 12
Ionawr 7 2012