Castell-nedd yn fuddugol
- Cyhoeddwyd

Dydd Sul
Sgoriodd cyn chwaraewr Abertawe a Wrecsam, Lee Trundle, ddwy gôl wrth i Gastell-nedd guro'r Bala 2-0.
Daeth y cyntaf ar ôl 12 munud a'r ail ar ôl yr egwyl.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Castell-nedd yn cau'r bwlch ar y Seintiau Newydd yn yr ail safle.
Ond ar nodyn siomedig i'r tîm cartref cafodd Chris Jones gerdyn coch ar ôl 68 munud
Dydd Sadwrn
Llanelli 0-1 Bangor
Aberystwyth 2-2 Caerfyrddin
Mae Bangor yn parhau â bwlch o bedwar pwynt ar frig yr uchwgynghrair wedi buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Llanelli, y tîm yn y pedwerydd safle.
Ond roedd yn rhaid i'r ymwelwyr aros tan yr amser gafodd ei ychwanegu ar gyfer anafiadau cyn sicrhau'r tri phwynt.
James Brewerton sgoriodd unig gôl y gêm.
Cyfartal oedd hi yn y frwydr rhwng y ddau dîm ar waelodion y gynghrair.
Roedd Caerfyrddin 2-0 ar y blaen diolch i goliau Jack Christopher (19 munud) a Jonathan Hood (51')
Ond tarodd Geoff Kellaway ddwywaith mewn 17 munud i sicrhau pwynt i'r tim cartref.
Nos Wener
Port Talbot 1-2 Lido Afan
Prestatyn 0-4 Seintiau Newydd
Y Drenewydd 0-4 Airbus UK Brychdyn
Roedd yna fuddugoliaeth rwydd i'r r Seintiau Newydd nos Wener.
Aeron Edwards sgoriodd gôl gyntaf y Seintiau Newydd yn erbyn Prestatyn, gyda Tom Roberts yn rhywdo ar ôl yr egwyl.
Sgoriodd Alex Darlington drydedd gôl Y Seintiau Newydd ar ôl 49 munud a rhwydodd Darlington eto gyda chic o'r smotyn 18 munud yn ddiweddarach i selio'r fuddugoliaeth.
Cafodd Y Drenewydd gweir gan ildio pedair gôl i Airbus UK Brychdyn.
Nev Thompson sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf wedi 38 munud ond agorwyd y llifddorau yn yr ail hanner wrth i Mike Hayes (49 munud), James Connelly (74 munud) a Jon Bathurst (85 munud) selio'r fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.
Lido Afan gipiodd y tri phwynt yn dilyn gêm agos yn erbyn Phort Talbot.
Martin Rose sgoriodd gôl gynta'r gêm i Bort Talbot wedi 17 munud ond fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal 13 munud yn ddiweddarach.
Leon Jeanne gipiodd y pwyntiau i Lido Afan.
CANLYNIADAU
Nos Wener
Port Talbot 1 Lido Afan 2
Prestatyn 0 Seintiau Newydd 4
Y Drenewydd 0 Airbus UK Brychdyn 4
Dydd Sul
Castell-nedd v Y Bala (2.30pm)
TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU
Chwefror 11 2012