Disgwyl cyhoeddiad dyfodol Ysbyty Blaenau Ffestiniog
Mae'r BBC yn deall y bydd yr adroddiad ar ddyfodol Ysbyty Coffa Bro Ffestiniog yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun.
Mae 'na 12 o welyau yn yr ysbyty ar hyn o bryd.
Mae ymgyrchwyr wedi dweud y byddan nhw'n ymladd i'r eithaf os y bydd yr adroddiad yn awgrymu y dylid gostwng nifer y gwelyau yno.
Bu Llŷr Edwards yn trafod y sefyllfa efo'r cynghorydd Linda Wynn Jones, sy'n cynrychioli Llan Ffestiniog ar Gyngor Gwynedd.