'Ddim wedi gwirioni ar Nikitta'
- Cyhoeddwyd
Yn Llys y Goron Casnewydd, mae'r dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Nikitta Grender, 19 oed, wedi dechrau rhoi tystiolaeth.
Dywedodd Carl Whant, 27 oed o'r Bettws yng Nghasnewydd, ei bod hi wedi cytuno i gael rhyw gydag ef ar y diwrnod y bu farw.
Mae e'n gwadu iddo'i llofruddio a'i threisio, a hefyd o ddinistrio baban yn ei chroth a rhoi ei fflat ar dân yn fwriadol.
Fe wnaeth Mr Whant wadu ei fod wedi gwirioni arni.
'Bodlon'
Dywedodd Mr Whant wrth y rheithgor ei fod wedi ei wahodd i gael rhyw â hi y diwrnod y cafodd ei thrywanu i farwolaeth.
Dywedodd fod cariad Ms Grender, Ryan Mayes, sef ei ffrind gorau ef a chyfyrder iddo, wedi ei alw i'r ystafell wely o'r gegin yn fflat y cwpl.
Dywedodd fod Mr Mayes wedi gadael yr ystafell a bod "Nikitta yn ymddangos yn fodlon - roedd yn annisgwyl".

Bu farw Nikitta Grender bythefnos cyn yr oedd i fod i roi genedigaeth
"Wedyn roeddwn i'n meddwl: 'Sut yn y byd ddigwyddodd hynny'?"
Dywedodd Mr Whant wrth y llys nad dyma'r tro cyntaf iddo gael rhyw gydag un o gariadon Mr Mayes, 17 oed.
Bu farw Ms Grender ym mis Chwefror y llynedd, bythefnos cyn yr oedd i fod i roi genedigaeth i ferch fach.
Daeth diffoddwyr o hyd i'w chorff yn ei fflat yn Llysweri, Casnewydd, tua 8am ar Chwefror 5, 2011.
Mae Mr Whant yn gwadu cyhuddiadau o lofruddiaeth, treisio, cynnau tân yn fwriadol a dinistrio plentyn.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2012

- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2012