Teyrnged i dad wedi damwain yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Michael Harvey yn gadael ei wraig, Julie, a dau o blant
Mae teulu dyn 33 oed, a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ger Casnewydd ddydd Sadwrn, wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd Michael Harvey ei ladd wedi'r digwyddiad ar lôn ddeheuol yr A467 rhwng y Tŷ Du a Basaleg.
Bu'r ffordd ar gau am bum awr wedi'r gwrthdrawiad ddigwyddodd tua 1.25pm ddydd Sadwrn.
Aed â Mr Harvey i Ysbyty Brenhinol Gwent lle cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Dywedodd ei wraig, Julie: "Mike, ti oedd fy mywyd, fy enaid...bydd hi'n anodd iawn i ni fyw ein bywydau hebot ti. Rydw i'n dy garu di gymaint a byddaf yn dy golli am byth."
Mae'n gadael ei wraig a dau o blant.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y gwrthdrawiad, dylen nhw gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101.