Ansicrwydd am ddyfodol y torgoch yn Llyn Padarn
Gallai un o bysgod mwya prin Cymru ddiflannu o un o'i ychydig gynefinoedd naturiol oherwydd llygredd ymhen pum mlynedd.
Dyna farn yr awdurdodau sy'n gyfrifol am warchod y torgoch.
Ond yn rhaglen Manylu nos Lun ar Radio Cymru, bydd yr asiantaethau hynny sydd â dyletswydd dros ddiogelu'r pysgodyn yn cael eu cyhuddo o laesu dwylo - sydd wedi arwain at ddifa'r union hyn maen nhw fod i'w warchod.
Bryn Jones sydd efo mwy ar y stori.