Tân yn dinistrio tŷ gwag ger Chwilog
- Cyhoeddwyd

Ar un adeg roedd diffoddwyr o Bwllheli, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Dolgellau yn ceisio rheoli'r fflamau
Parhau i ymchwilio y mae'r awdurdodau ar ôl i dŷ gwag gael ei ddinistrio gan dân yng Ngwynedd.
Roedd diffoddwyr o Bwllheli, Porthmadog, Blaenau Ffestiniog a Dolgellau yn ceisio rheoli'r fflamau yn y tŷ anghysbell ger Chwilog am 1.28am ddydd Mercher.
Enw'r tŷ yw Penrhyn, y mae grŵp gwyliau Hafan y Môr yn berchen arno ym Mhenychain.
Y gred yw mai'r cylched byr trydanol yn y mesurydd trydan achosodd y tân.
"Mae'r tân yn dangos pa mor beryglus yw tanau trydanol," meddai Glyn Jones o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
"Fe all ddigwydd unrhyw amser ac yn unrhyw le.
Larymau
"Dylai'r cyhoedd wneud popeth o fewn eu gallu rhag ofn y bydd tân yn cynnau, fel sicrhau eu bod yn gosod larymau mwg gweithredol yn y cartref a bod cynllun dianc fel bod modd i'r teulu adael y tŷ cyn gynted â phosib.
"Hefyd dylai pawb wneud yn siŵr bod mannau lle mae eitemau trydanol yn cael eu cadw yn glir o sbwriel, papur a deunyddiau hylosg eraill a all hwyluso lledu tân.
"At hynny, mae rhai camau syml y mae modd eu dilyn i atal tân trydanol yn y cartref, gan gynnwys:
PEIDIO Â gorlwytho socedi;
GWIRIO gwifrau yn rheolaidd rhag ofn eu bod wedi treulio;
TYNNU plwg unrhyw gyfarpar sydd ddim yn cael ei ddefnyddio;
CADW cyfarpar yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da."
Dywedodd llefarydd ar ran Hafan y Môr fod yr adeilad wedi bod yn wag ers peth amser.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref am ddim.
Os oes angen fe fyddan nhw yn gosod larymau mwg am ddim. Y rhif ffôn yw 0800 169 1234 neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk am fanylion pellach.