Rhyddfraint dinas i'r Fonesig Shirley Bassey
- Cyhoeddwyd

Mae'r Fonesig Shirley Bassey yn un o ferched Caerdydd
Fe fydd Cyngor Caerdydd yn rhoi rhyddfraint y ddinas i un o'i merched enwocaf.
Mae trefniadau yn cael eu gwneud y wahodd y gantores Y Fonesig Shirley Bassey i seremoni arbennig i dderbyn yr anrhydedd.
Ers 1886, dim ond 60 o bobl a naw sefydliad sydd wedi derbyn Rhyddfraint y Ddinas.
Yr olaf o'r rhain oedd y diweddar Syr Tasker Watkins yn 2006.
Yn ystod cyfarfod llawn o'r cyngor sir ddydd Iau fe gafodd y gantores o Tiger Bay ei henwebu'n swyddogol i dderbyn yr anrhydedd.
Caiff yr anrhydedd ei roi i "berson arbennig" a phobl sydd, ym marn yr awdurdod, wedi gwasanaethu'r lle neu'r ardal yn amlwg.
Cafodd y gantores ei geni yn y ddinas yn 1937 cyn dod yn enw a llais enwog yn 16 oed.
Gweithio dros y ddinas
Ers hynny mae hi wedi perfformio ym mhob cwr o'r byd gan "chwifio'r faner dros Gaerdydd a Chymru", yn ôl y cyngor.
Mewn gyrfa sydd wedi para am dros 50 mlynedd mae hi wedi gwerthu dros 135 miliwn o recordiau.
Erbyn hyn mae hi'n byw dramor ond yn dod yn ôl i berfformio yng Nghymru a chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau pwysig yng Nghymru.
Roedd hi'n rhan o agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dathliadau Cwpan Ryder 2010.
Mae hi hefyd yn cefnogi nifer o elusennau gan gynnwys Apêl Arch Noa sy'n codi arian ar gyfer Ysbyty Plant Cymru yng Nghaerdydd a thrwy Ysgoloriaeth y Fonesig Shirley Bassey yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yn cefnogi'r celfyddydau.
"Mae'n bleser o'r mwyaf gennyf gyhoeddi enwebu'r Fonesig Shirley Bassey i gael Rhyddfraint Dinas Caerdydd," meddai Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Rodney Berman.
"Mae'r Fonesig Shirley yn wir lysgennad i Gaerdydd a Chymru.
"Mae'r enwebiad yn cydnabod y cwbl mae hi wedi ei wneud, ac yn parhau i'w wneud dros y ddinas, a galla i ddim meddwl am rywun sy'n haeddu'r anrhydedd hon yn fwy.
"Allwch chi byth feddwl amdani heb feddwl am Gaerdydd, ac mae hi wedi helpu hyrwyddo'r ddinas cymaint, dros nifer fawr o flynyddoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2012
