Carcharu clerc banc am ddwyn
- Cyhoeddwyd

Roedd yr achos yn Llys y Goron Merthyr Tudful
Mae clerc cownteri Banc Barclays oedd yn euog o 13 o gyhuddiadau o dwyll wedi ei charcharu am ddwy flynedd a hanner.
Clywodd Llys y Goron Merthyr Tudful fod Gaynor Russ, 59 oed, wedi dwyn mwy na £160,000 pan oedd yn gweithio yng nghangen Treherbert.
Roedd hi wedi gwadu dau gyhuddiad arall o dwyll.
Clywodd y llys fod Russ o Stryd Dumfries, Treorci, wedi camddefnyddio'i swydd rhwng Awst 2007 a Mai 2008.
Dywedodd y barnwr ei bod hi wedi camddefnyddio'r ffaith bod pobl yn ymddiried ynddi a bod y dioddefwyr yn cynnwys yr oedrannus, y bregus a'i ffrind gorau, Gaynor Watkins.
Roedd Russ wedi gweithio i Fanc Barclays am 40 mlynedd ac yn warden eglwys.
Cerdyn credyd
Clywodd y llys ei bod wedi cael trafferth talu ei cherdyn credyd yn 2007.
Roedd Sharon Thomas yn gofalu am gyfri ei brawd, Michael, oedd â phroblemau dysgu ond diflannodd o leia £20,000 o'r cyfri yn Awst 2007.
Clywodd y rheithgor fod Russ yn symud symiau mawr o un cyfri i'r llall ac yn gohirio datganiadau i gwsmeriaid.
Dywedodd y dioddefwyr eu bod nhw ddim yn gallu credu yr hyn oedd yn digwydd a dywedodd un fod Russ wedi ei bradychu.