Y Gamp Lawn i Gymru
- Cyhoeddwyd

Capten Cymru Sam Warburton gyda Thlws y Chwe Gwlad
Mae Cymru wedi sicrhau eu trydedd gamp lawn mewn cyfnod o wyth mlynedd ar ôl curo Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Hwn oedd y tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers Cwpan y Byd, pan fu Ffrainc yn fuddugol 9-8.
Yr asgellwr Alex Cuthbert sgoriodd unig gais y gêm.
Dyma'r ail Gamp Lawn yr hyfforddwr Warren Gatland.
"O fod yn ffefrynnau mae hwn yn dîm ifanc sydd wedi dangos aeddfedrwydd dan bwysau mawr," meddai.
Bydd Tlws y Chwe gwald yn cael ei gyflwyno unwaith eto ddydd Llun mewn seremoni arbennig gan Lywodraeth Cymru.
Y Prif Weinidog fydd yn cyflwyno'r Tlws i Warren Gatland a'r capten Sam Warburton, gyda gweill y garfan yn bresennol.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal y tu allan i'r Senedd am 6pm.
Dywedodd Mr Jones fod gan Gymru arwyr newydd.
"Heddiw rydym yn croesawu cenhedlaeth newydd o arwyr rygbi - chwaraewyr sydd wedi sicrhau'r un llwyddiant a thimau mawr y gorffennol."
Roedd son bod hyd at 250,000 o gefnogwyr wedi dod i Gaerdydd ar gyfer yr achlysur.

Alex Cuthbert yn curo'r amddiffyn ar gyfer unig gais y gem
Y Gêm
Daeth y pwysau cynnar yn y gêm oddi wrth Cymru ond roedd y tîm cartref yn euog o ildio ciciau cosb gan fod yn orfrwdfrydig ar adegau.
Roedd y glaw hefyd yn gwneud hi'n anodd, gyda Ffrainc yn llwyddo i arafu'r chwarae.
Aeth Ffrainc ar y blaen drwy gic gosb Yachvili ar ôl 10 munud.
Cafodd Cymru gyfle bum munud yn ddiweddarach i ddod a'r sgôr yn gyfartal.
Gyda Lee Halfpenny wedi ei anafu, daeth y cyfle i Priestland ond tarodd ei ergyd yn erbyn y postyn.
Daeth unig gais y gêm i Alex Cuthbert ar ôl i Alun Wyn Jones ddwyn y bêl oddi ar y Ffrancod.
Aeth y bêl drwy'r dwylo i Cuthbert, gyda'r asgellwr yn dangos ei ddoniau i sgorio ar ôl 23 munud
Aeth Cymru 10-3 ar y blaen ar ôl cic gob arall wedi gwaith da gan y canolwr Jonathan Davies.
Gyda Ffrainc yn camsefyll roedd yna gyfle i fynd ymhellach ar y blaen, ond y tro hwn tro Halfpenny oedd hi i fwrw'r bêl yn erbyn y postyn.
Roedd Cymru heb eu capten Warburton ar ôl yr egwyl oherwydd anaf a daeth Ryan Jones i'r maes.
Daeth Ffrainc o fewn pedwar pwynt ar ôl cic gosb, gyda Gethin Jenkins yn camsefyll.
Ar ôl tacl wych gan Lydiate yng nghanol y cae dyfarnwyd cic gosb i Gymru gyda Ffrainc yn troseddu.
Llwyddodd Halfpenny gyda chic o 52 metr i wneud y sgôr yn 13-6.
Roedd Ffrainc yn chwarae yn fwy mentrus ac yn amrywio tactegau yn fwy yn yr ail hanner.
Bu bron i gic ban Beauxis greu cais ond llwyddodd taclo Lydiate unwaith eto i achub Cymru.
Er i Ffrainc sgorio cic gosb arall fe darodd Halfpenny yn ôl, a'r sgôr terfynol Cymru 16-9 Ffrainc.
CYMRU: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Toby FaletauEILYDDION: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams.
FFRAINC: Poitrenaud, Fofana, Rougerie, Fritz, Palisson, Beauxis, Yachvili; Poux, Servat, Attoub, Pape, Maestri, Dusautoir (c),Bonnaire, Harinordoquy.
EILYDDION: Szarzewski, Debaty, Pierre, Picamoles, Parra, Trinh-Duc, Buttin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2012

- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2012
