Gatland i arwain y Llewod?
- Cyhoeddwyd

Bu Gatland yn ddirprwy i Syr Ian McGeechan ar daith y Llewod yn 2009
Mae BBC Cymru ar ddeall bod Warren Gatland wedi cael cynnig y swydd o hyfforddi'r Llewod yn 2013.
Cafodd Gatland - hyfforddwr Cymru - gyfweliad am y swydd yn Llundain ddydd Mercher cyn dychwelyd i'w gartref yn Seland Newydd
Credir bod cynrychiolwyr Gatland bellach wedi dechrau trafodaethau cytundebol, ac mae disgwyl cadarnhau'r penodiad fis nesaf.
Mae penaethiaid y Llewod am i hyfforddwr 2013 fod ar gael am flwyddyn i bob pwrpas.
Eisoes mae Undeb Rygbi Cymru wedi agor y drws i'r penodiad drwy ganiatáu i Gatland fethu Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2013.
Mae prif weithredwr yr Undeb, Roger Lewis, wedi sgwrsio'n anffurfiol gyda rheolwr y Llewod, Andy Irvine, a'r prif weithredwr John Feehan, er mwyn i Gatland fedru arwain y daith i Awstralia.
Roedd Gatland yn ddirprwy i Sir Ian McGeechan ar y daith i Dde Affrica yn 2009.
Mae disgwyl i Gatland benodi hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, fel ei ddirprwy, gan adael Rob Howley a Robin McBryde yng ngofal Cymru ar gyfer y daith i Japan yn haf 2013.
Gatland fyddai'r ail hyfforddwr o'r tu allan i Brydain i arwain y Llewod wedi i Graham Henry - oedd hefyd yn hyfforddwr Cymru - arwain y daith i Awstralia yn 2001.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2012

- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2012
