Morgannwg yn herio Swydd Derby
- Cyhoeddwyd

Mark Wallace yw capten Morgannwg
Mae Morgannwg yn herio Sir Derby yn eu gêm gartref gyntaf yn Stadiwm Swalec yn ail adran y bencampwriaeth ddydd Iau.
Collodd Morgannwg eu gêm gyntaf i Sir Gaerlŷr o 52 rhediad dros y Sul ac fe gurodd Sir Derby Sir Northampton.
Mae'r bowliwr cyflym Will Owen yn ymuno â charfan Morgannwg ar gyfer y gêm bedwar diwrnod.
Dim ond un gêm mae Morgannwg wedi ennill yn eu 12 gêm gartref gyntaf ddiwethaf yn y bencampwriaeth ac nid ydyn nhw wedi curo Sir Derby ar dir Cymru ers naw mlynedd.
Carfan Morgannwg: Rees, Walters, Bragg, Wright, Allenby, Henriques, Wallace (c, wic), Wagg, Croft, Cosker, Waters, Owen.