Dŵr Cymru yn buddsoddi £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf
- Cyhoeddwyd

Fe fydd cwmni Dŵr Cymru yn buddsoddi £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf.
Cyhoeddodd y cwmni y byddan nhw'n buddsoddi'r arian ar amrywiaeth o brosiectau isadeiledd ar draws Cymru a sir Henffordd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys £100 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau na chafodd eu clustnodi yn wreiddiol yn eu buddsoddiad pum mlynedd (2010-2015).
Mae'r rhaglen yn bodoli drwy gyllid effeithiol a ddaw o Glas Cymru, perchnogion heb elw o Dŵr Cymru.
Fe fydd y buddsoddiad yn cael ei wario wrth i filiau cartrefi ostwng mewn termau real.
Mae Dŵr Cymru yn darparu gwasanaeth i 3 miliwn o bobl.
Ymhlith y gwaith fydd yn cael ei wneud y mae gwaith yng nghanolfan trin dŵr Llyswen (Powys), Bala (Meirionnydd) ac Aberporth (Ceredigion) a gwella gwaith trin gwastraff dwr Wrecsam.
Wrth gyhoeddi canlyniadau diwedd blwyddyn y cwmni, ddaeth i ben ar Fawrth 31 2012, dywedodd Bob Ayling, y cadeirydd, mai eu hamcan oedd cynnig y gorau i'w cwsmeriaid o'r ansawdd dwr yfed gorau a diogelu'r amgylchedd.
"Rydym hefyd yn gobeithio dangos bod ein model busnes unigryw o fudd i'r cwsmer a'n bod wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y flwyddyn tuag at hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2012
