Gweithwyr ffatri ceblau pŵer yn Wrecsam ar streic
- Cyhoeddwyd

Enillodd cwmni Prysmian Cables gytundeb gwerth £15 miliwn i gynhyrchu a gosod ceblau pŵer ar gyfer fferm wynt Gwynt y Môr
Bydd tua 400 o weithwyr ffatri yng ngogledd Cymru sy'n gwneud ceblau pŵer ar streic oherwydd anghydfod tâl.
Dywed undeb Unite fod y streic chwe awr gan staff cwmni Prysmian Cables, sydd wedi'i leoli ar Stad Diwydiannol Wrecsam yn dechrau am 1pm ddydd Mercher ac y byddai gweithwyr y shifft nos yn streicio am 1am fore dydd iau.
Yn ôl yr undeb maen nhw wedi bod yn trafod â'r cwmni ers mis Chwefror eleni ond roedden nhw wedi methu â dod i gytundeb.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i gwmni Prysmian am eu sylwadau ynglŷn â'r mater.
Gwynt y Môr
"Mae hwn yn anghydfod sy'n dal i fynd yn ei flaen," meddai swyddog rhanbarthol undeb Unite, Tony Brady.
"Dechreuodd y trafodaethau ym mis Chwefror a mis Mawrth ond nid yw'r cwmni wedi cyrraedd disgwyliadau ein haelodau.
"Pleidleisiodd 94.7% o'n haelodau o blaid gweithredu'n ddiwydiannol."
Yn ôl Mr Brady fe fyddai streic debyg yn digwydd ddydd Llun nesaf.
Yn 2010 enillodd cwmni Prysmian Cables gytundeb gwerth £15 miliwn i gynhyrchu a gosod ceblau pŵer ar gyfer fferm wynt Gwynt y Môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011