Rhwyg o godi ysgol ardal newydd yng Ngwynedd
Mae dadlau mawr yn ardal Bro Dysynni ynglŷn â lleoliad ysgol ardal i wasanaethu'r fro.
Fe fydd Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cael eu hargymell i ganiatáu cais cynllunio dadleuol i godi ysgol ardal a hynny yn Llanegryn.
Mae lleoliad yr ysgol newydd wedi achosi rhwyg yn y gymuned wledig.
Mae rhai am weld yr ysgol yn cael ei chodi ym Mryncrug ac eraill ddim am weld ysgolion gwledig yn cau o gwbwl.
Fe fyddai hyn yn digwydd fel rhan o'r cynllun.
Adroddiad Llŷr Edwards.