Cymeradwyo cais am ysgol ardal newydd yn ardal Bro Dysynni
- Cyhoeddwyd

Roedd protestiadau oherwydd y bwriad i gau ac uno ysgolion lleol
Mae Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo cais i godi ysgol ardal ger Llanegryn ym Mro Dysynni.
Bydd y gwaith adeiladu'n dechrau o fewn wythnosau a'r ysgol yn cael ei hagor ym Medi 2013.
Roedd swyddogion wedi argymell caniatáu'r cais cynllunio.
Y bleidlais oedd naw aelod yn erbyn pedwar.
Tra oedd rhai am i ysgol gael ei chodi ym Mryncrug, roedd eraill yn erbyn bwriad y cyngor i gau ysgolion gwledig.
Mae Llŷr Edwards wedi bod yn trafod y cais gyda thrigolion lleol
Bwriad y cyngor yw cau ysgolion Abergynolwyn, Bryncrug, Llanegryn a Llwyngwril yn ystod y flwyddyn ysgol 2013-14.
Llywodraeth Cymru sydd wedi cymeradwyo cynlluniau i gau Ysgol Bryncrug, Ysgol Llanegryn ac Ysgol Llwyngwril a sefydlu'r ysgol ardal newydd ger Llanegryn.
Y cais gerbron yr awdurdod oedd codi ysgol gynradd, creu dau fynediad newydd i gerbydau/cerddwyr, gosod gwaith trin dŵr budr, a chynllun tirlunio a hynny ar dir i'r gorllewin o Lanegryn.