Y nofiwr Ieuan Lloyd yn sicrhau lle yn y ras unigol
- Cyhoeddwyd

Bydd Ieuan Lloyd yn dathlu ei ben-blwydd yn 19 cyn y Gemau
Mae Ieuan Lloyd - y nofiwr 18 oed o Benarth - wedi sicrhau ei le fel nofiwr unigol yn nhîm Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Roedd Lloyd eisoes wedi ei enwi yn y garfan ar gyfer y ras gyfnewid, ond mae bellach wedi sicrhau ei le yn y ras 200m dull rhydd wedi iddo ennill ras y treialon yn Sheffield.
Dydd Mercher, roedd Lloyd yn ail i David Carry yn y ras 400m, ond fe aeth un yn well nos Iau drwy guro Carry yn y ras 200m.
Roedd y Cymro wrth ei fodd a dywedodd: "Mae'n wych nofio'r 200 mewn amser cyflymach nag y gwnes i yn y treialon cyntaf yn Llundain, oherwydd dydw i ddim wedi medru gorffwys yn iawn ers hynny.
"Mae'n wych medru edrych ymlaen at gystadleuaeth unigol yn Llundain."
Bydd Lloyd yn dathlu ei benblwydd yn 19 oed o fewn wythnosau i ddechrau'r Gemau yn Llundain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
