Cyffuriau: Arestio mwy na 30
- Cyhoeddwyd

Roedd 20,000 yn yr ŵyl yn 2011
Cafodd mwy na 30 o bobl eu harestio am droseddau'n ymwneud â chyffuriau yn ystod gŵyl Beach Break Live eleni.
Arestiodd yr heddlu 31 o bobl am droseddau'n ymwneud â chyffuriau yn yr ŵyl ar draeth Cefn Sidan ger Parc Gwledig Penbre, Sir Gâr, rhwng Mehefin 14 ac 18.
Cafodd pedwar eu harestio am droseddau'n ymwneud â meddwdod, difrod troseddol a throseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Ond ar y cyfan, meddai'r heddlu, roedd llai o droseddau na llynedd.
'Chwilio'
"Dim ond dau achos o ddwyn gafodd eu hadrodd, ffigwr isel iawn o gofio digwyddiad o'r fath," meddai llefarydd.
Roedd 20,000 yn yr ŵyl yn 2011.
Dywedodd y Prif Arolygydd Mark Bleasdale o Heddlu Dyfed-Powys: "Rhan o'r rheswm am fwy o arestio yn ymwneud â chyffuriau oedd ein hymgyrch lle'r oedd pobl yn cael eu chwilio wrth iddyn nhw fynd i'r ŵyl.
"Hefyd fe stopion ni a chwilio tua 100 o gerbydau yn ystod yr ŵyl."
Diogelwch
Yn ôl yr heddlu, cafodd 25 eu harestio yn yr ŵyl y llynedd a chofnodwyd 52 o droseddau.
Ond penderfynodd y trefnwyr gwella diogelwch ar gyfer eleni oherwydd pryderon yr heddlu.
Roedd yna well ddarpariaeth o gamerâu cylch cyfyng a ffensiau mwy diogel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2012