Dod o hyd i gorff ar draeth
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y corff wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor
Mae'r heddlu wedi dweud bod corff wedi ei ddarganfod ar draeth ym Mae Trearddur, Ynys Môn.
Roedd y corff rhwng Porth y Post a Phorth Dafach.
Am 11.20am ffoniodd cerddwr yr heddlu.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y corff wedi ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.