Llai'n wynebu risg ddifrifol
- Cyhoeddwyd

Parc carafanau Riverside yng Ngheredigion
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi dweud bod llai o dai a busnesau yng Nghymru'n wynebu risg ddifrifol o lifogydd.
Ond dywedodd fod angen gwneud mwy i wella amddiffynfeydd.
Ers 2009 mae £42m wedi ei wario ar amddiffynfeydd môr a llifogydd ac mae 16,000 yn llai o dai a busnesau'n wynebu risg ddifrifol.
Roedd adroddiad yn 2008 wedi dweud bod 64,000 o dai a busnesau'n wynebu risg. Y cyfanswm presennol yw 48,000.
Llifogydd
Ynghynt yn y mis effeithiodd llifogydd ar dai a busnesau yng Ngheredigion a de Gwynedd.
Bydd manylion yr adeiladau sy'n wynebu risg yn cael eu hanfon at Gymdeithas Yswirwyr Prydain ddywedodd yn Ionawr y byddai miloedd o bobl mewn ardaloedd risg uchel yn wynebu problemau pan fyddai cytundeb Llywodraeth San Steffan yn dod i ben y flwyddyn nesa.
Roedd y gostyngiad mwya yn Sir Conwy, 600 yn wynebu risg ddifrifol yn lle 10,000 wrth i amdiffynfeydd gael eu gorffen ac wrth i dechnoleg o safon uwch gael ei defnyddio i broffwydo risg.
'Gostyngiad mawr'
Dywedodd yr asiantaeth fod "gostyngiad mawr" yn Sir Ddinbych lle oedd dim ond 600 o dai a busnesau'n wynebu risg ddifrifol.
"Rydym yn gweithio'n galed i leihau'r risg ond mae llifogydd yn digwydd o bryd i'w gilydd," meddai cyfarwyddwr yr asiantaeth, Chris Mills.
"Yn ddiweddar, mi welon ni effaith ysgytwol llifogydd ar dai a busnesau pobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2012

- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
