'Ystyriwch gostau system gyfreithiol,' medd yr Arglwydd Morris
- Cyhoeddwyd

Mae'r Arglwydd Morris wedi cyflwyno ei dystiolaeth i'r pwyllgor.
Dylai Aelodau Cynulliad ystyried costau creu system gyfreithiol ar wahân, meddai cyn Dwrnai Cyffredinol.
Dywedodd yr Arglwydd Morris o Aberafan, prif swyddog cyfreithiol Llywodraeth San Steffan rhwng 1997 a 1999, nad oedd yn glir beth fyddai goblygiadau system ar wahân.
Ar hyn o bryd mae pwyllgor o Aelodau Cynulliad yn ystyried creu system gyfreithiol i Gymru.
Doedd dim modd amcangyfrif y gost, meddai'r Arglwydd Morris, "ond efallai y byddai ACau angen ystyried hon yn flaenoriaeth."
Tystiolaeth
Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i ben ar Fehefin 19.
Mae'r Arglwydd Morris wedi cyflwyno ei dystiolaeth i bwyllgor materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol y Cynulliad.
Eisoes mae'r pwyllgor a'r llywodraeth wedi gofyn am sylwadau am gynnwys a dulliau gweithredu system ar wahân.
Dywedodd yr Arglwydd Morris: "Ar hyn o bryd does dim modd tybio beth fydd cost creu system ar wahân.
"Ond dwi'n tybio y byddan nhw'n sylweddol."
Mwy o wahaniaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod mwy o wahaniaeth rhwng y gyfraith yng Nghymru a'r gyfraith yn Lloegr ers datganoli yn 1999.
Ond mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi dweud bod y drefn bresennol wedi "gwasanaethu Cymru'n dda am ganrifoedd".
Bydd rhaid ystyried sylwadau cyn y bydd gweinidogion yn cyhoeddi'r camau nesa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2012

- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2012

- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
