Cystadleuaeth 'Celf ar gyfer Awtistiaeth'

  • Cyhoeddwyd
"A study in light" gan Carrie Francis, 21, o Brifysgol Fetropolitan Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae cystadleuaeth sy'n anelu at chwalu'r syniad na all bobl ag awtistiaeth fod yn greadigol wedi cyhoeddi enwau'r rhai sydd yn y rownd derfynol. Mae 'Celf ar gyfer Awtistiaeth' yn cael ei redeg gan Goleg Beechwood, ger Caerdydd.

"Seaside Plate" gan Katie Wooldfield, 16, o Ysgol Alderman Knight
Disgrifiad o’r llun,

Cymrodd fwy na 550 o artistiaid ifanc o bob rhan o'r DU ran yn y gystadleuaeth.

"Bird on Stick" gan Priscilla Jones, 18, o Ysgol Y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gystadleuaeth, sydd yn ei hail flwyddyn, ar agor i bobl ifanc o 11 i 25 mlwydd oed, sydd wedi cael diagnosis o gyflwr sbectrwm awtistiaeth

"Girl playing with leaves" gan Hani Warrich, 20, o Royal College Manchester.
Disgrifiad o’r llun,

Ymhlith y rhai oedd yn beirniadu'r gystadleuaeth oedd yr actor Jane Asher, y cyflwynydd teledu Gaby Roslin a Brendan Burns, darlithydd ym Mhrifysgol Morgannwg, sydd wedi ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol dwywaith.

"King on Sticks" gan Sion Griffiths, 17, o Ysgol Y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfle i bleidleisio mewn categori newydd - Dewis y Bobl - tan ddydd Sul, 1 Gorffennaf.

"African Mask" gan Alexander Wright, 17, o Goleg Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Bydd enillwyr y pedwar categori arall yn cael eu cyhoeddi ar 6 Gorffennaf mewn seremoni wobrwyo yng Ngholeg Beechwood.

"Pepper" gan Duncan McDougall, 16, o ysgol The Abbey yn Surrey.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gwaith y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael ei arddangos mewn pedair dinas: Caerdydd, Bryste, Birmingham a Llundain.

"Coral Reefs" gan Patrick Pearce, 16, o Sunnydown School
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd prifathro Coleg Beechwood, Darren Jackson: "Rydym wedi gweld yng Ngholeg Beechwood sut y gall celf a chreadigrwydd drawsnewid bywydau ein myfyrwyr, gan eu helpu i gyfathrebu â'r byd o'u cwmpas."

"My trip to Sully Beach", Natasha, 20.
Disgrifiad o’r llun,

Ychwanegodd Mr Jackson: "Mae gan bobl ifanc ag awtistiaeth lawer o ddawn greadigol ac mae'n hanfodol ein bod yn cydnabod ac yn dathlu eu galluoedd."