Dyledion o filiynau o bunnoedd i gynghorau Cymru am ofal cymdeithasol
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffigurau yn amrywio yn y 12 cyngor a wnaeth ymateb
Dyw miliynau o bunnoedd o daliadau am ofal cymdeithasol i bobl hŷn ddim wedi eu talu i gynghorau lleol Cymru.
Mae ffigyrau wedi dod i law raglen CF99 BBC Cymru, sy'n datgelu bod dros £13 miliwn heb ei dalu, i'r deuddeg cyngor wnaeth ymateb.
Ond gyda dyledion gwerth dros £4 miliwn sy'n deillio o wasanaethau cymdeithasol i oedolion sydd wedi eu hanghofio gan dros hanner o gynghorau Cymru ers 2001, mae'r ffigwr yn nes at £17 miliwn.
Mae'r wybodaeth yn dilyn galwad am "ddadl radical" ynghylch ariannu gofal cymdeithasol i oedolion yn y dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn blaenoriaethu cyllid ar gyfer llywodraeth leol i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol.
Mae'r ffigyrau yn amrywio yn y 12 cyngor wnaeth ymateb.
£2 miliwn
Mae 'na ddyled o dros £2 miliwn ar Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir Benfro a Thorfaen, tra bod Ynys Môn yn ddyledus ychydig o dan £9,000.
Nid yw awdurdodau lleol yn cadw cofnod os yw'r dyledion yn ganlyniad i bobl yn methu neu'n peidio talu'r ffioedd.
Mae asedau personol hefyd yn cyfrif am ganran o'r dyledion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2011