Angen cyfleoedd ar actorion ifanc
Mae angen rhagor o gyfleoedd ar actorion ifanc i berfformio drwy gyfrwng y Gymraeg - dyna mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud wrth rhaglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru.
Maen nhw'n dweud y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn unrhyw gynlluniau i sefydlu Theatr Ieuenctid Genedlaethol uniaith Gymraeg, ac mae cyfarwyddwr presennol Theatr Ieuenctid yr Urdd wedi' awgrymu y dylai unrhyw gwmni newydd fod yn broffesiynol.
Dyma adroddiad Gwenllian Glyn ar Y Post Cyntaf fore Gwener.