Codi arian yn eu dillad isa' yn Nyffryn Conwy
- Cyhoeddwyd

Eleni fe estynwyd y gwahoddiad i ddynion ymuno yn y daith
Roedd mwy nag erioed wedi dod at ei gilydd eleni i gerdded 26 milltir yn eu dillad isa'.
Eu bwriad yw codi arian ar gyfer unedau canser yn ysbytai Llandudno a Glan Clwyd.
Roedd y merched a dynion yn cerdded o Ysbyty Ifan i Bentrefoelas.
Cychwynnodd y daith o Ysbyty Ifan am 8.30am cyn gorffen yng Ngwesty'r Foelas, Pentrefoelas.
Roedd 90 o gerddwyr o ardal Ysbyty Ifan a'r fro wedi dod ynghyd i gerdded yn eu tronsiau a bra.
"Roedd mwy nag erioed wedi cofrestru eleni a phawb yn cyflawni'r daith mewn 7 awr," meddai Siwan Hywel, un o'r trefnwyr.
"Fe wnaethom gasglu llawer o arian er budd dwy elusen arbennig.
"Roedd hi'n braf oedd gweld cymaint o ddynion wedi dod i gefnogi BrasGamu a Thrôns Gwlad.
"Roedd y merched wedi addurno eu bra's yn ddel.
"Mi oedden ni gyd yn meddwl am y rhai sy'n brwydro drwy ganser ar bob cam o'r daith."
Unedau lleol
Nid dyma'r tro cyntaf iddyn nhw fynd ati i godi arian, ond hyd eleni merched sydd wedi bod yn gwneud y cerdded.
Dywedodd Siwan Hywel bod y merched wedi bod yn gwneud y daith ers tair blynedd bellach.
"Ond roedden ni'n awyddus i'r dynion beidio colli allan eleni.
"Roeddan ni eisiau dynion i godi ymwybyddiaeth, casglu arian a cherdded y daith Drôns Gwlad."
Bydd yr arian eleni yn mynd at ddwy elusen, Uned Canser y Fron yn Ysbyty Llandudno ac Uned Canser y Ceilliau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Y llynedd casglwyd £4,000 tuag at elusennau, Uned Canser y Fron yn Ysbyty Llandudno; Canolfan Trin Canser Gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd; Ymatebwyr Cyntaf Uwchaled ac Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru.