Holi dau am ladrad metel honedig
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain wedi arestio dau o bobl yn dilyn digwyddiad yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf nos Sul.
Roedd swyddogion yn ymateb i adroddiad am ladrad honedig ar ran o'r rheilffordd ger gorsaf Aberpennar am 8:15pm.
Cafodd dau ddyn lleol, 37 a 32 oed, eu harestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o ladrata.
Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.
Yn y cyfamser, mae arbenigwyr fforensig wedi bod yn archwilio'r safle.
'Trafferthion mawr'
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Cleland, o Heddlu Trafnidiaeth Prydain: "Mae'r ymchwiliad diweddara' yma yn rhan o waith parhaol rhwng Network Rail a heddluoedd lleol i daclo lladradau metel o bob math - gwaith sy'n profi'n effeithiol iawn.
"Mae dwyn offer rheilffordd yn achosi trafferthion mawr i deithwyr ac mae 'na oblygiadau enfawr i'r economi leol; mae'n ymosodiad ar y gymuned mewn gwirionedd."
Ychwanegodd Mark Langman o Network Rail Cymru: "Mae hyn yn rhoi rhybudd i unrhyw un sy'n ystyried dwyn metel o reilffyrdd. Mae lladrad metel yn rhoi pwysau mawr ar ein hadnoddau ac yn achosi trafferthion sylweddol i ddefnyddwyr y rheilffyrdd.
"Pob blwyddyn, mae gweithredoedd y lladron hyn yn costio cannoedd o filoedd o bunnoedd i Network Rail ac yn arwain at oedi a chanslo trenau, a'r costau iawndal enfawr sy'n gysylltiedig."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y lladrad yn Aberpennar gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 0800 40 50 40, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011