Yn euog o lofruddio actor teledu
- Cyhoeddwyd

Cafodd Gary Suller ei ddarganfod yn farw yn ei gartre' fis Medi'r llynedd
Mae dyn 38 oed wedi ei gael yn euog o lofruddio actor teledu o Gwmbrân.
Cafodd Gary Suller, 45 oed, ei guro i farwolaeth yn ei gartref ar Stryd Harold, Pontnewydd, ym mis Medi 2011.
Clywodd rheithgor Llys y Goron Caerdydd fod Barry Bowyer o Groesyceiliog wedi clymu Mr Suller a'i guro cymaint nes iddo gael anafiadau fyddai fel arfer yn cael eu hachosi gan ddamwain car.
Clywodd y llys fod y digwyddiad yn sgil ffrae rhwng y ddau ddyn dros butain.
Doctor Who
Roedd Mr Suller wedi chwarae rhannau actio bychain yng nghyfresi teledu Doctor Who a Casualty.
Mewn datganiad dywedodd John Williams, Uwcherlynydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Fe lofruddiodd Barry Bowyer Gary Suller mewn ymosodiad oedd yn ddidrugaredd o dreisgar a hollol ddisynnwyr.
"Tra bod Bowyer wedi cyfadde' ei fod yn gyfrifol am farwolaeth Gary, dyw e erioed wedi cydnabod fod hon yn weithred ddideimlad a rhagfwriadol.
"Mae hwn wedi bod, ac yn parhau yn amser hynod o anodd i deulu a ffrindiau Gary Suller ac rydym yn meddwl amdanynt."
Bydd Bowyer yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach ddydd Mawrth.