Damwain Tornado: Cymro wedi marw
- Cyhoeddwyd

Roedd teulu'r Awyr-lefftenant Hywel Poole yn byw ym Mhorthaethwy
Daeth cadarnhad fod peilot o Gymru yn un o'r rhai gafodd eu lladd pan darodd dwy awyren ei gilydd yn Yr Alban ddydd Mawrth.
Wedi'r ddamwain rhwng y ddwy awyren Tornado o Ganolfan yr Awyrlu yn Lossiemouth, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod un aelod o'r ddau griw wedi marw a dau arall ar goll, fwy na thebyg yn farw.
Un o'r tri oedd yr Awyr-leffenant Hywel Tomos Poole, 28 oed, gafodd ei eni ym Mangor ond a oedd yn byw ym Mhorthaethwy.
Mewn datganiad dywedodd y weinyddiaeth ei fod yn aelod o garfan hwylio Cymru a Phrydain pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy cyn astudio pensaernïaeth forwrol ym Mhrifysgol Southampton.
Wedi iddo gymhwyso fel peilot, bu'n gweithio yng Nghanolfan yr Awyrlu yn Y Fali ar Ynys Môn cyn cael ei ddewis ar gyfer hyfforddiant ar y Tornado, gan symud i Lossiemouth yn Nhachwedd 2011.
'Brwdfrydig a phoblogaidd'
"Roedd gan yr Awyr-lefftenant Poole gymeriad allblyg iawn ac roedd yn aelod brwdfrydig a phoblogaidd o fy sgwadron yn yr Awyrlu Brenhinol," meddai Pennaeth Sgwadron XV (Wrth gefn), Jonathan Moreton.
"Gan ddangos talent naturiol wrth hedfan y Tornado, fe sefydlodd ei hun yn gyflym fel peilot galluog a hyderus.
"Wrth gyfuno hynny gyda'i hiwmor a chymeriad hoffus roedd yn aelod poblogaidd iawn o'r sgwadron.
"Y tu allan i'w waith roedd yn rhoi ei amser personol i helpu eraill, yn mentora staff oedd yn dyheu am gomisiwn ac roedd wastad yn barod i wirfoddoli i godi arian i elusennau'r ganolfan, gan gynnwys Help For Heroes.
'Colled fawr'
"Bydd colled fawr ar ôl Hywel. Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i gyfeillion yn y cyfnod eithriadol o anodd yma."
Y ddau arall gollodd eu bywydau yn y ddamwain ar Orffennaf 3 oedd yr Awyr-lefftenant Amad Sanders o Southport a'r Arweinydd Sgwadron Samuel Edward Bailey o Nottingham.
Mae ymchwiliad trylwyr i achos y ddamwain wedi dechrau ac fe fydd yr Awyrlu yn cyhoeddi mwy o fanylion maes o law.