Heddlu: 3,500 o ymsosodiadau mewn cyfnod o bum mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae nifer yr ymosodiadau wedi gostwng yn ddiweddar
Bu tua 3,500 o ymosodiadau ar blismyn yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.
Cafodd y ffigyrau eu rhyddhau ar ôl cais rhyddid gwybodaeth gan aelod cynulliad ac aelod seneddol.
Mae'n golygu cyfartaledd o 700 o ymosodiadau bob blwyddyn, ond gyda'r niferoedd yn gostwng yn raddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Dywed yr heddlu fod unrhyw ymosodiadau ar blismyn yn achos pryder.
Mae'r manylion yn datgelu fod diheintydd wedi ei daflu i wyneb plismon yng Ngwent, tra bod rhywun wedi ymosod ar un o blismyn y gogledd gyda bat pêl fas.
Dengys y ffigyrau fod yna 597 o ymosodiadau ar aelodau o Heddlu Gwent, o'i gymharu â 895 yng ngogledd Cymru a 961 yn y de.
'Gormod'
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn casglu data mewn ffordd wahanol.
Nodwyd fod swyddogion heddlu yn Nyfed-Powys yn ddioddefwyr trais ar 1,078 achlysur.
Ond dyw hi ddim yn glir a oeddynt ar ddyletswydd ar y pryd, na chwaith os oeddynt yn gwasanaethu gyda llu arall.
Dywedodd y prif uwcharolygydd Sue Hayes o Heddlu'r De tra bod y ffigyrau wedi haneru dros gyfnod o bum mlynedd, "mae unrhyw ymosodiad ar yr heddlu yn un yn ormod."
AC De Clwyd, Ken Skates a AS De Clwyd Susan Jones wnaeth y cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth.
Dywedodd Mr Skates fod y ffigyrau yn achos pryder oherwydd bod yna doriadau yng nghyllidebau'r lluoedd.
Yn ôl Ms Jones er bod y nifer yr ymosodiadau yn gostwng "rydym yn parhau i weld nifer annerbyniol o ymosodiadau.
"Mae'n rhaid i hyn newid, mae angen rhwystro'r fath ymddygiad."