Marwolaeth: arestio dyn 81 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 81 oed wedi ei arestio fel rhan o ymchwiliad Heddlu Dyfed-Powys i farwolaeth dynes yn Cas-lai i'r gogledd o Hwlffordd, Sir Benfro.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dynes 82 oed ddydd Mercher.
Cafodd y dyn ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Fe gafodd yr heddlu eu galw i dy yng Nghas-lai tua 10am ddydd Gwener.
Dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.